Bangor Civic Society
 Pennau Saethau Fflint  

3000 BC

Roedd pobl Neolithig wedi cartrefu ledled ogledd Cymru. Bu Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn cloddio ar nifer o safleoedd anheddau’n dyddio’n ôl bum mil o flynyddoedd, o amgylch Bangor, er enghraifft, yn 2005. Cafwyd nifer o bethau, yn eu plith pennau saethau wedi'u gwneud o fflint lleol, y dystiolaeth gyntaf o chwarel ac o ffurfio allforion mwyaf eiconig Cymru ac olion adeiladau pren hirsgwar o'r cyfnod Neolithig Cynnar.

 Ffowndri’r Oes Efydd 

1400 BC

Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn byw ym Mangor ei hunan erbyn yr Oes Efydd, - yn nyffryn afon Adda ac ar bentir y Garth. Roedd Efydd yn cael ei gloddio mewn gwahanol safleoedd ar hyd arfordir y gogledd ac olion o’r gweithfeydd cynnar hyn yw’r slag ar draethau afon Menai a hefyd safleoedd claddu a phoptai pridd ‘pyllau llosgi’ ar safle Parc Bryn Cegin.

Daeth tystiolaeth i’r fei mewn nifer o safleoedd cloddio o amgylch Bangor o 'ffonfwyeill' efydd yn cael eu cynhyrchu a’u defnyddio. Ffonfwyeill oedd y prif erfyn gwaith coed yn yr Oes Efydd Ganol ac roedd y rhain ar ffurf llafnau llydan, miniog, ac yn cael eu defnyddio un ai fe bwyeill neu fel neddau. Mae hyn yn awgrymu fod ffowndrïau bychain yn gweithio ar wahanol adegau drwy'r Oes Efydd ac nid yw'n ormod o naid i ragdybio fod efydd yn cael ei weithio yn yr ardal gydol y cyfnod hwn.

 Y Rhufeiniaid 

60 AD

Yn y ganrif gyntaf AD, gwnaeth y Rhufeiniaid sawl ymderch i oresgyn noddfa olaf y Derwyddon yng Nghymru ar Ynys Môn. Yn y flwyddyn 60AD, gorfodwyd Suetonius Paulinus i roi’r gorau i hynny gan wrthryfel Buddug, neu Boudicca, yn ne-ddwyrain Lloegr ond daeth Gnaeus Julius Agricola yn ôl gyda’i leng 17 mlynedd yn ddiweddarach i orffen y gwaith. Sefydlwyd gwersylloedd ar y tir mawr o amgylch Bangor yn barod am yr ymosodiad. Yn rhhyfedd iawn, nid yw’r bryncyn yn edrych dros afon Menai uwchben Ffordd Garth Uchaf ac sy’n cael ei alw heddiw ‘Y Gwersyll Rhufeinig’ yn Rhufeinig mewn gwirionedd, er bod darn o arian Rhufeinig wedi’i ddarganfod yno. Safle ‘mwnt a beili’ Normanaidd sydd yno, o fil o flynyddoedd yn ddiweddarach.

 Y Gadeirlan  

546 AD

Mae Eglwys Gadeiriol Bangor yn fan addoli Cristnogol hynafol. Dywedir mai hi yw’r gadeirlan hynaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae wedi’i chysegru i’w sefydlydd, Deiniol Sant. Mae’r adeilad presennol ar safle Mynachlog Deiniol Sant, a oedd, yn ôl y chwedl, wedi’i adeiladu ar safle isel, ddi-nod, rhag denu sylw’r Llychlynwyr o’r môr. Yn drist, cafodd y fynachlog ei hysbeilio yn 634 AD ac eto yn 1073 a does dim o’r adeilad gwreiddiol wedi goroesi.

Cafodd y Gadeirlan ei hail adeiladu sawl gwaith ers hynny, ar ôl ei hanrheithio gan sawl byddin o Loegr o dan y Brenin John a’r Brenin Edward y Cyntaf. Canlyniad i waith helaeth y pensaer enwog o oes Fictoria, Sir George Gilbert Scott, dros y cyfnod 1866-1875 yw’r adeilad sydd i’w weld heddiw. Cafodd ‘Gardd Feiblaidd’ ei phlannu ar dir y Gadeirlan yn cynnwys enghraifft o bob planhigyn sy’n cael ei grybwyll yn y Beibl, a thu mewn i'r adeilad mae cerfiadau cain o bump lygod i'w gweld, llofnod y saer coed enwog Robert Thompson. Rhan o’r addurniadau hefyd yw ‘Crist Mostyn’, cerflun o Grist yn eistedd ar garreg cyn y croesholiad. Y cerflun hwn o’r 15fed ganrif yw un o drysorau mwyaf y Gadeirlan ac mae ar fenthyg gan Ystâd Mostyn.

 Deiniol Sant 

584 AD

Cafodd Deiniol Sant, “Esgob Bangor yn Nheyrnas Gwynedd” ei gysegru yn 545 gan neb llai na Dewi Sant, nawdd sant Cymru. Roedd ei deulu’n wreiddiol o ogledd Lloegr ond ar ôl colli eu hystadau yno, cawsant diroedd yng Ngwynedd gan Frenin Powys, Cyngen ap Cadell. Rhoddodd Maelgwn Gwynedd, Brenin Gwynedd, dasg i Deiniol o sefydlu mynachlog lle saif Eglwys Gadeiriol Bangor heddiw. Dywedir iddo farw ar ynys Enlli “ar arfordir gogleddol Cymru, esgob ac abad Bangor”. Ei ddydd gŵyl yw 11 Medi.

Mae yna nifer o wahanol ddamcaniaethau ynghylch tarddiad yr enw Bangor. Mae Bangor yn rhan o enw nifer o anheddau cynnar, gan gynnwys Enlli (Bangor Cadvan yn Enlli), Glastonbury (Bangor Wydrin) a Bangor Is-y-coed. Ond mae’r rhan fwyaf o’r ffynonellau’n cyfeiro at ‘Bangor’ fel enw o’r hen Frythoneg (un o ddwy gangen o’r teulu iaith Geltaidd Ynysig, tarddiad y gair “British”) fel math o ffens bren, a fyddai, mae’n debyg, wedi bod o amgylch safle’r gadeirlan. Fodd bynnag, mae rhai’n dadlau, gan fod "Ban" yn golygu ‘lle’ a "gôr" yn golygu “côr” y gallai Bangor olygu “lle’r côr”.

 Celc o Arian Llychlynwyr 

10 C

Yn 852 AD y cofnodwyd y cyrch cyntaf gan Lychlynwyr yng Nghymru a bu’r Llychlynwyr yn ymosod ar arfordir Môn a Gwynedd o 854 AD ymlaen. Tua 952, gadawyd celc o arian o fewn hen ffiniau’r fynachlog (Stryd Fawr Bangor erbyn heddiw) ar ôl i fynachlog Deiniol Sant ym Mangor gael ei hysbeilio. Roedd yn gelc yn cynnwys arian bath o Deyrnas y Llychlynwyr yng Nghaerefrog, arian bath Eingl Sacsoniaid, dirhemiaid Arabaidd (Kufig) a darn o freichled a darn o ingot arian. Gadawyd celc arall o arian bath tua 970 ac mae copïau o gelc 925 i’w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Bangor.

 Sefydlu Tŷ'r Brodyr Duon 

13 C

Ceir y sôn cyntaf am Frodordy’r Brodyr Duon ym Mangor yn 1251 AD. Credir iddo gael ei sefydlu o dan nawdd Llywelyn Fawr. Roedd safle wreiddiol y Brodordy ger glannau afon Menai, yn Hirael. Mae cerrig beddau o’r Brodordy cyntaf (tua 1280) i’w gweld yn y neuadd ym mynedfa Amgueddfa ac Oriel Gwynedd.

 Esgoblyfr Bangor 

14 C

(Ewch i’r llun) © Deon a Chabidwl Eglwys Gadeiriol Bangor a Phrifysgol Bangor.

Llun o’r esgob yn cysegru eglwys newydd. Yma mae’n ysgeintio’r eglwys â dŵr sanctaidd, gyda chymorth gwas offeiriad mewn gwenwisg sy’n dal bwcedaid o ddŵr. Aur gloyw yw cefndir y llun, gydag addurniadau o ysmotiau crwn wedi’u gwneud ag erfyn metel. Mae border o batrymau haniaethol yn ffrâm iddo, gyda blaguryn llygad y dydd ym mhob cornel.

Llawysgrif esgob o’r 14eg ganrif yw Esgoblyfr Bangor sy’n cynnwys nodiant cerddorol a thestun Lladin o wasanaethau blwyddyn yr Eglwys. Mae’n cynnwys ffurf y gwasanaeth i'w ddefnyddio pan fo esgob yn cysegru eglwysi, allorau a mynwentydd yn ogystal â bendithion ar gyfer yr achlysuron. Mae’r ysgrif arno yn dweud ei fod yn perthyn i Anian, esgob Bangor rhwng 1309 a 1325. .

Mae wedi’i drwsio a'i ailrwymo'n ddiweddar ac yn cael ei gadw'n ddiogel yn archifau Prifysgol Bangor ar hyn o bryd, ond mae hefyd ar gael erbyn hyn i'w astudio ar lein. Meddai Dr Sally Harper o Brifysgol Bangor: “Rydyn ni wedi cael tîm arbenigol o Rydychen i ddigideiddio’r llyfr a gallwch weld manylion pob tudalen yn ei holl ogoniant ar y wefan. Rydyn ni’n bwriadu cael y testun Lladin wedi’i gyfieithu a’i arddangos yn gyfochrog a bydd yna nodiant cerddorol a ffeiliau sain, byddwch yn gallu clicio ar felodi plaengan a gwrando arni."

 See the Pontifical 

 Cyflwyno Siarterau 

14/15 C

Yn 1284, aeth Edward 1, yn fuddugoliaethus ar ôl trechu Llewelyn ap Gruffydd, tywysog olaf Cymru annibynnol, ati i wobrwyo ei gefnogwyr. Roedd Anian Sais, Esgob Bangor, yn un o'r rhain, a rhoddodd Edward yn ôl iddo'r meddiannau a'r breintiau yr oedd yr Esgob yn eu mwynhau cyn teyrnasiad byr Llewelyn. Ar ben hynny, cafodd Anian sawl maenor yn Sir Feirionnydd, Sir Gaernarfon ,Sir Fôn a Dyffryn Clwyd.

Ym 1330, cyflwynodd y Tywysog Du, Edward III, Siarter i’r Esgob Matthew de Englefield, yn rhoi hawl iddo gynnal ffair tridiau ym Mangor ar Wylnos a Gŵyl Sant Luc.

Ym 1351, rhoddodd Siarter arall gan y Tywysog Du hawl i denantiaid yr Esgob werthu lluniaeth yng ngogledd Cymru. Yn yr un Siarter, cafodd breintiau’r Esgob eu cadarnhau “hyd ddiwedd amser” i weithredu fferi i groesi'r Fenai ac i gynnal ffair bedwar diwrnod yn ystod gŵyl Trillo Sant. Roedd y rhain a Siarterau eraill yn cadarnhau’r Esgob fel Arglwydd Maenor Bangor, a oedd yn cynnwys “ville” Bangor a thair ar ddeg o drefgorau.

Ym 1431, cyflwynodd John Cliderow, Esgob Bangor, Siarter a oedd yn ail-neilltuo i ddinasyddion Bangor y breintiau ar gyfer masnachu yr oedden nhw’n arfer eu mwynhau cyn gwrthryfel Owain Glyndŵr. Fodd bynnag, cadwodd yr Esgob reolaeth gyffredinol dros faterion cyfreithiol a gweinyddol yn ei esgobaeth.

 Tŷ'r Archddiacon Shakespeare 

1400

Henry IV, Part I

Mae drama Shakespeare, Henry IV Part 1, wedi’i gosod yn Lloegr y 15fed ganrif yn ystod teyrnasiad y Brenin o’r un enw. Mae yna ffrae danbaid yng Ngolygfa Gyntaf y Drydedd Act rhwng Hotspur, Worcester, Mortimer, a Glendower sy’n digwydd yn Nhŷ’r Archddiacon, Bangor. Mae rhan o adeiladwaith yr Archddiaconiaeth yn goroesi hyd heddiw ar y Stryd Fawr. Roedd yn arfer bod yn safle Banc Barclays, yna'n siop lyfrau academaidd, erbyn hyn, yma y mae boutiqe merched So Chic.

 Sefydlu Ysgol Friars 

1557

c1899

Ar ôl i Harri’r Wythfed ddiddymu’r mynachlogydd, prynwyd brodordy Bangor gan Geoffrey Glynne. Roedd amod yn ei ewyllys, dyddiedig 8 Gorffennaf 1557, y dylai’r Brodordy ddod yn Ysgol Ramadeg ac roedd ei rodd yn cynnwys y swm o £20 ar gyfer adfer a gwella’r adeilad. Roedd ffioedd y myfyrwyr i gael eu talu o fuddsoddiad o £400 mewn eiddo a oedd yn rhoi incwm o £20 y flwyddyn. Roedd y cyfarwyddiadau i rieni fel a ganlyn: “Ye shall submit your child to be ordered in all things after the direction of the master and usher. Ye shall find your child sufficient paper, ink, pens, books, candles for winter, and all other things at any time requisite and necessary for the maintenance of his study.””

Arhosodd Ysgol Friars ar y safle hon tan 1789 pan aeth cyflwr yr hen Frodordy mor wael nes bod yn rhaid symud. Ond nid oedd yr ysgol yn ffynnu yn ei adeilad newydd ar lannau afon Adda lygredig a bu'n rhaid iddi symud am gyfnod byr i Benmaenmawr yn ystod pla'r teiffoid ym 1881. Ond gwenodd ffawd arni ar ôl symud i fan iachach ym Mangor Uchaf. Cafodd ysgol newydd ei hadeiladu ym 1899 ac agor y flwyddyn ganlynol. Roedd yn brolio fod ganddi oleuadau trydan, gweithdai a ‘Chwriciwlwm Clasurol, Mathemategol a Gwyddonol”.

Ym 1971 daeth Friars yn ysgol gydaddysgol, gydag adeilad yn Eithinog ar gyfer disgyblion hŷn. Arhosodd Friars wedi'i rhannu ar ddwy safle tan 1999 pan gafodd ysgol newydd gynhwysfawr ei hadeiladu yn Eithinog. Yn 2012, bu disgyblion Ysgol Friars yn cyfrannu syniadau at ddyluniad Llinell Amser Bangor.

 Sefydlu Elusendai 

17 C

Sefydlodd Dr Henry Rowland, Esgob Bangor, elusendy - yn cyfuno ymddiriedolaeth elusendy ac ysbyty - ym 1616. Roedd wedi'i dylunio ar gyfer chwe dyn sengl. Yr un Dr Rowland hefyd a sefydlodd yr ysgol ramadeg ym Motwnnog drwy elusen.

 Milwyr y Senedd yn y Ddinas 

1648

Yn ystod y Rhyfel Cartref, Thomas Myddleton, Aelod Seneddol Sir Ddinbych oedd â gofal am ymgyrch byddin y Senedd yng ngogledd Cymru. Ei brif strategaeth oedd torri cyflenwadau milwrol y Brenin, Siarl y Cyntaf, a ddeuai ar longau o’r cyfandir, a symudodd Myddleton ei luoedd i borthladdoedd Conwy, Bangor a Chaernarfon. Fodd bynnag, roedd y porthladdoedd hyn wedi’u hamddiffyn yn dda ac ar ôl i filwyr y Brenin gyrraedd o Iwerddon, bu raid i Myddleton dynnu'n ôl.

Ar ôl buddugoliaeth y Seneddwyr, roedd milwyr Cromwell yn cael eu biledu ym Mangor. Yn ystod yr Ail Ryfel Cartref yn 1648, roedd yna derfysg ar Ynys Môn ond cafodd ei drechu heb ymladd difrifol.

 Tre'r Post 

1718

Ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif, roedd Bangor yn dal yn dref wledig, dawel. Ond, yn 1718, dechreuodd y Swyddfa Bost Cyffredinol ar gyfres o welliannau i’w gwasanaeth ledled y wlad, yn eu plith, ail ddatblygu’r briffordd rhwng Llundain a Dulyn. Rhan o hynny oedd creu cyswllt newydd rhwng Bangor a Fferi Porthaethwy a gwneud Bangor yn Dref Bost swyddogol. Gellir olrhain twf Bangor o ran maint a phoblogaeth yn ystod y canrifoedd nesaf yn ôl i’r cyfnod hwn.

 Gwasanaeth Coets Fawr, Caer - Caergybi 

1776

Y ffordd fwyaf hwylus o deithio ar draws gwlad yn y ddeunawfed ganrif oedd ar y goets fawr. Roedd coetsis yn cario teithwyr rhwng Caer a Chaergybi yn cael eu rhedeg gan gonsortiwm o dafarnwyr o’r lleoedd roedd y coetsis yn aros yng Nghaer, Llaneurgain, Llanelwy, Conwy, Bangor a Chaergybi. Ym 1776, y tâl am deithio o Gaer i Gaergybi oedd punt a chwe cheiniog yn yr hen arian, a cheiniog am bob pwys o fagiau dros ddeg pwys. Roedd y goets yn gallu cario tri theithiwr a’r daith yn dechrau am 4am bob bore. Ar gael oedd "Every requisite to render travelling agreeable and commodious" yn y gwahanol dafarnau lle byddai’r goets yn aros ar y ffordd, megis y Penrhyn Arms ym Mangor, safle’r Brifysgol yn ddiweddarach!

 Adeiladu Porth Penrhyn 

1786

Chwaraeodd teulu’r Pennant o Benrhyn ran fawr yn hanes ardal Bangor. Agorodd Richard Pennant, Arglwydd Penrhyn yn ddiweddarach, chwareli llechi ym Methesda yn y 1770au. Erbyn diwedd y ganrif ganlynol, chwarel y Penrhyn oedd y chwarel lechi fwyaf yn y byd. Roedd y llechi’n cael eu cario ar reilffordd o Fethesda i Borth Penrhyn, harbwr a adeiladwyd yn arbennig ychydig i’r dwyrain o Fangor lle mae afon Cegin yn llifo i afon Menai.

Mae llongau’r arfordir a chychod pysgota yn dal i ddefnyddio’r porthladd.

 Datblygu Chwareli'r Penrhyn 

1780s

O’r ddeunawfed ganrif ymlaen, llechi oedd allforion pennaf gogledd Cymru, gyda theulu’r Pennant a'u Chwarel y Penrhyn ym Methesda ar flaen y gad. Daeth ffortiwn teulu’r Pennant nid yn unig o lechi ond hefyd o fasnachu mewn siwgr o blanhigfeydd caethweision y teulu yn Jamaica.

Roedd ‘Streic Fawr y Penrhyn”, anghydfod diwydiannol chwerw yn Chwarel y Penrhyn rhwng 1900 a 1903, yn gam yn ôl yn hanes ffortiwn y teulu. Edwinodd y diwydiant cyfan ymhellach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wrth i filoedd o ddynion adael y diwydiant o ganlyniad i orfodaeth filwrol. Arweiniodd y Dirwasgiad Mawr, ac yna’r Ail Ryfel Byd, at gau nifer o chwareli llai gogledd Cymru ac effeithiodd cystadleuaeth oddi wrth ddeunyddiau toi eraill, teils, yn enwedig, hyd yn oed yn fwy ar y diwydiant yn y 1960 a'r 1970au.

Mae cartref teulu’r Pennant yng Nghastell Penrhyn yn dal yn atyniad mawr i ymwelwyr â gogledd Cymru. Cafodd y castell, a’r ystâd o 40,000 erw (160 km²) o’i gwmpas eu derbyn gan y Trysorlys yn lle treth marwolaeth ar ôl i’r Fonesig Janet Douglas-Pennant farw ym 1951. Erbyn hyn mae’r cyfan o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

 North Wales Gazette 

1808

Mae Bangor a Chaernarfon yn cael eu cydnabod fel y ddwy ganolfan cyhoeddi papurau newydd yng ngogledd-orllewin Cymru. Dechreuodd y cyfan ym 1808 pan sefydlodd y teulu Broster o Gaer y North Wales Gazette ym Mangor. Newidiwyd enw’r papur ym 1827 i the North Wales Chronicle, a’r adeg hynny roedd yn falch o alw’i hunan “yr unig bapur newydd sy’n cael ei argraffu yng ngogledd Cymru”. Mae'n dal ar werth ar silffoedd siopau papurau newydd hyd heddiw.

 North Wales Chronicle 1827-1900 e

 Ffordd Caergybi (Ffordd Telford) 

1817

Un o gymeriadau mwyaf nodedig yn hanes gogledd Cymru yw Thomas Telford. Mae ei waith adeiladu wedi ffurfio nid yn unig y tirlun ond holl hanes y rhanbarth. Ym 1808 cafodd Telford y dasg o adrodd ar gyflwr y ffordd fawr gyhoeddus rhwng yr Amwythig a Chaergybi. Ar ôl ymchwil trylwyr a manwl, ffurfiodd lwybr yr hyn a ddaeth yr A5 heddiw. Yr adeg hynny, hon oedd y briffordd draws sirol gyntaf i gael ei hadeiladu ers i'r Rhufeiniaid adael.

O gofio mai coetsis teithwyr a’r post fyddai’r prif draffig arni, deddfodd Telford na alli’r un allt fod yn fwy serth nag un mewn ugain. Awdurdododd Deddf 1815 brynu’r ffyrdd tyrpeg a oedd yn bodoli ar y pryd ac adeiladu ffordd newydd i orffen y ffordd fawr a fyddai'n cysylltu'r ddwy brif ddinas, Llundain a Dulyn ac a fyddai'n agor Bangor i'r byd mawr.

Mae llawer o nodweddion ffordd wreiddiol Telford yn dal i oroesi ar yr A5 yng ngogledd Cymru hyd heddiw. Mae’r rhain yn cynnwys tolltai, cilfachau ar ochr y ffordd ar gyfer graean a deunyddiau eraill i gynnal y ffordd, cerrig milltir nodweddiadol a phont bwyso ar Lôn Isaf rhwng Bangor a Bethesda Mae’r ffordd wedi’i chydnabod ers 1995 yn ffordd hanesyddol sy’n werth ei chadw.

 Pont y Borth 

1826

Cyn 1826, doedd dim cyswllt sefydlog rhwng Môn a’r tir mawr. Roedd yn rhaid i’r holl draffig i ac o’r ynys fynd ar fferi, neu, yn beryclach, ar droed ar lanw isel. Gwartheg oedd llawer o fasnach Môn yr adeg hynny a byddai’n rhaid eu gyrru i’r dŵr i nofio ar draws dyfroedd twyllodrus afon Menai. O ganlyniad i Ddeddf Uno 1800 bu cynnydd enfawr yn y fasnach rhwng Llundain a Dulyn a phenderfynwyd bod yn rhaid adeiladu pont.

Rhan o orchest peirianyddol enfawr Thomas Telford ar “Ffordd Caergybi” (gweler y nodyn blaenorol) oedd dylunio ac adeiladu pont grog dros Afon Menai gan gysylltu Bangor ar y tir mawr â Phorthaethwy (a ddaeth i gael ei galw’n Menai Bridge) ar Ynys Môn. Cafodd Telford gyfarwyddid bod yn rhaid dylunio’r bont fel y gallai llongau hwylio’r Llynges, gyda mastiau 100 troedfedd (30 metr) o uchder, hwylio oddi tani ar ben llanw ac na ellid defnyddio sgaffaldiau i'w hadeiladu gan y byddai hynny hefyd yn rhwystro llongau rhag hwylio.

Dechreuodd y gwaith ym 1819 drwy adeiladu’r tyrrau enfawr o boptu’r afon. Cafodd 16 o geblau cadwyn enfawr, pob un yn cynnwys 935 o fariau haearn i gynnal y span 577 troedfedd (176 metr), eu crogi rhwng y tyrrau. Cyfrifwyd y gallai’r cadwyni ddal mwy na dwy fil o dunelli, a bod pob cadwyn ei hunan yn pwyso tua 121 tunnell. Cafodd y bont ei hagor ar 30 Ionawr 1826 a llwyddiant Telford yn cael ei gydnabod yn hollol haeddiannol fel rhyfeddod peirianyddol pennaf y cyfnod. Roedd y bont yn torri naw awr ar y daith rhwng Llundain a Chaergybi, gan ei chwtogi o ddiwrnod a hanner i ychydig dros 27 awr.

Mae llun o Bont y Borth mewn border o reiliau a stansiynau i'w gweld ar gefn darnau £1 Prydain a gafodd eu bathu yn 2005. Mae model i raddfa o’r bont, a’r bob plymio a gafodd ei ddefnyddio wrth ei chodi, yn cael eu harddangos yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd. Mae rhagor i'w weld yn yr arddangosfa yng Nghanolfan Thomas Telford ym Mhorthaethwy.

 The Menai Bridges Heritage Site 

 Cwmni Gwaith Dŵr Bangor 

1843

Ar ddechrau oes Fictoria, roedd y frech wen, teiffoid a’r diciâu yn endemig, gyda cholera yn enwedig yn frawychus o heintus. Roedd diffyg glanweithdra a thlodi’n gadael miliynau mewn perygl o gael eu heintio a dim ond yn raddol y daeth pwysigrwydd dŵr yfed glân yn amlwg yn y frwydr yn erbyn yr heintiau.

Ym 1843, adeiladodd James Smyth Scott, o Ddulyn, gronfa ddŵr yng Nghae Ffynnon Ddeiniol (ger Ffordd Hendre Wen). Hefyd, prynodd dir ar ben draw Stryd y Ffynnon i adeiladu gwaith nwy, y Bangor Gas and Coke Company. Roedd Hugh Roberts, a oedd â siop ddillad dynion ar y Stryd Fawr, yn bartner yn y gronfa ddŵr ac, ym 1846, daeth yn unig berchennog. Prynodd ragor o dir ac adeiladu cronfa ddŵr y Nant (uwchben fferm Hendre Wen) i ddal mwy o ddŵr.

Erbyn 1849, o’r 1100 o dai yn y dref, roedd 233 yn cael dŵr gan y Bangor Waterworks Company. Ar ôl deddf 1854 ‘ i gyflenwi'n well drigolion Bangor â dŵr’, cytunodd cyfarwyddwyr i uno’r Cwmni Dŵr gyda’r Cwmni Nwy a Chôc. Cafodd cronfa ddŵr ei hadeiladu ger Bethesda, a'i gorffen ym 1856-7, a oedd yn cael dŵr o afon Caseg ac yn cysylltu â chronfa wasanaeth yn Nhwrgwyn ar Fynydd Bangor ac, yn raddol, disodlodd y rhain gronfa ddŵr y Nant.

Ar ôl agor ysbyty afiechydon heintus ym Minffordd ym 1895, adeiladwyd melin wynt gerllaw i bwmpio dŵr i’r gronfa ddŵr newydd yn Bryniau er mwyn cael digon o ddŵr i’r ysbyty ac i bentref Minffordd. Cafwyd rhagor o welliannau yn ystod y 1920 a'r 1930au, gan gynnwys tanc gwasanaeth uchel ar Fynydd Bangor, gosod prif bibellau dyblyg a chodi adeilad hidlo newydd ger lle’r oedd dŵr yn dod i mewn. Cafodd cronfeydd gwasanaeth newydd eu codi yn Bryniau ym 1958 ac yn Nhwrgwyn ym 1959.

 Ysbyty Môn ac Arfon 

1845

C&A Infirmary, Upper Bangor

Cafodd Loyal Dispensary Bangor ei hagor ym 1810 gyda chyfrifoldeb iechyd cyhoeddus i frechu yn erbyn y frech wen. Ym 1845, fe'i symudwyd i Fangor Uchaf (mae'r adeilad gwreiddiol, erbyn hyn, efallai'n briodol, yn filfeddygfa!) a'i hail enwi'n Caernarvonshire & Anglesey Infirmary. Roedd yn cyflogi llawfeddygon a meddygon ond, hyd yn oed ym 1882, dim ond 11 gwely oedd ar gael. Caeodd yr ysbyty ym 1984 pan agorodd yr Ysbyty Gwynedd newydd. Erbyn hyn, archfarchnad Morrisons sydd ar y safle.

 Agor Wyrcws Glanadda 

1845

Ym 1834, adroddodd Comisiwn arbennig ar sut yr oedd Deddf y Tlodion yn gweithio ym Mhrydain. O ganlyniad, daeth Deddf Diwygio Deddf y Tlodion i rym a oedd yn datgan na ddylai unrhyw berson iach o gorff dderbyn arian na chymorth arall gan awdurdodau Deddf y Tlodion heblaw mewn tloty. Roedd yr amodau yn y tlotai’n cael eu cadw’n fwriadol galed iawn gan y tybid y byddai hynny’n perswadio pobl i beidio â gofyn am help. Cafodd tlotai eu hadeiladu ym mhob plwyf, neu mewn undeb o blwyfi llai, ac, o ganlyniad sefydlwyd Undeb Deddf y Tlodion Bangor a Biwmares ym 1837 ar safle yng Nglanadda i’r de-orllewin o’r ddinas.

Yng nghyfrifiad 1881, cofnodwyd 92 o ‘drigolion’ yn nhloty Glanadda, yn amrywio o blant sugno i ‘werthwr nytiau a phinnau’ o Iwerddon, 84 oed.

Ar ôl cau’r tloty ym 1930, codwyd hufenfa ar y safle. Mae’r adeiladau wedi’u dymchwel erbyn hyn ac arfarchnad wedi’i chodi yno.

 Bangor & Beaumaris Workhouse 

 Rheilffordd Caer a Chaergybi 

1848

Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd angen cynyddol am gyswllt rheilffordd cyflym ag Iwerddon. Ar ôl llawer o drafodaeth ar rinweddau gwahanol lwybrau, a phwyso mawr am adeiladu porthladd fferi mewn gwahanol fannau, gan gynnwys Porthdinllaen a Llandudno, Caergybi a ddaeth i’r brig. Cafodd y cynlluniau ar gyfer Rheilffordd Caer a Chaergybi y Cysyniad Brenhinol ar 4 Gorffennaf 1844.

Dechreuodd y gwaith adeiladu Ddydd Gŵyl Ddewi, 1 Mawrth, 1845 ac erbyn diwedd y flwyddyn honno roedd tua phum mil o labrwyr yn gweithio arni. Gosodwyd 85 milltir o reilffordd yn ystod y cyfnod pedair blynedd, cloddiwyd a chwythwyd twneli mewn gwahanol fannau a chafodd dwy bont nodedig eu codi, Pont Reilffordd Conwy a Phont Brittannia Bangor. Gwaith Robert Stephenson oedd y ddwy gan ddefnyddio'r technegau tiwbiau haearn gyr mwyaf modern y cyfnod.

 Amgueddfa ac Ystafell Ddarllen 

1848

Llun: David Price

Sefydlwyd Llyfrgell Rydd ac Amgueddfa'r Capten John Jones ym 1848 gan y Capten Llong, John Jones, brodor o Fangor. Yn gweithio yn y fasnach de, roedd Capten Jones yn hwylio o Lerpwl i India a'r Dwyrain Pell ac yn casglu llawer o weithiau celf a phethau egsotig. Roedd y rhain yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa a sefydlodd yn y Stryd Fawr ar waelod Lôn Popty. Roedd yn hael iawn wrth y ddinas ac aeth peth arian o'i ewyllys at gostau Llyfrgell Rydd Carnegie newydd (gweler yn ddiweddarach) a agorodd ym 1907. Gellir gweld rhai o'r pethau o'r Amgueddfa heddiw yn Amgueddfa ac Oriel Bangor ac yn y Gadeirlan. Cafodd catalog ei baratoi o lyfrau yn Llyfrgell Rydd Jones ym 1894 (sydd ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd) ac mae’n rhestru mwy na 1500 o gyfrolau.

 Epidemig Colera 

1850

Yn ôl y North Wales Chronicle, pan ddaeth y peiriannydd a’r hynafiaethydd Prydeinig George Thomas Clark i ymweld â Bangor ym 1849 i edrych ar lanweithdra yn y ddinas, tynnwyd ei sylw at ddiffyg cyffredinol y draeniau. Roedd y DU yn dioddef o epidemig ar ôl epidemig o golera ac, erbyn 9 Gorffennaf, roedd yr achos cyntaf wedi cyrraedd Bangor. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, bu farw nifer o bobl o’r afiechyd yn y dref. Byddai degau o filoedd o bobl yn marw ledled y wlad yn ystod y degawdau nesaf a dim ond drwy wella glanweithdra a deall natur yr haint yn well y gallwyd ei drechu.

 Pont Britannia 

1850

Robert Stephenson, mab y peiriannydd enwog George, oedd yn gyfrifol am ddyluniad cyfan gwbl arloesol y bont Brittannia wreiddiol. Tiwbiau haearn gyr oedd y dyluniad gyda darnau bocs o’r bont yn cael eu hadeiladu ar y lan a’u cludo ar gychod i'w gosod yn eu lle. (Gellir dal i weld darn bocs gwreiddiol ger y bont fodern).

Llun: Angus McCulloch

Mae pedwar cerflun o lewod Prydeinig urddasol yn gwarchod dwy geg y bont, un ar bob glan. Cafodd y rhain eu dylunio gan John Thomas, yr oedd ei waith yn cael ei gomisiynu hefyd ym Mhalas Buckingham ac yn Abaty Westminster. Prin y gellir eu gweld o’r bont fodern ond mae cerdd yn eu cylch gan y Bardd Cocos, John Evans o Borthaethwy, yn dal yn boblogaidd gyda phlant hyd heddiw.

Pedwar llew tew

Heb ddim blew

Dau 'ochr yma

A dau 'ochr drew

 

Four fat lions

Without any hair

Two on this side

And two over there

 

Yn y 1970au, lledaenodd tân o ochr Bangor ar bont Stephenson yr holl ffordd drosodd i lannau Môn. Effeithiodd hyn gymaint ar sefydlogrwydd y bont nes y penderfynwyd ei hail adeiladu o goncrid a bwâu dur. Husband & Co a wnaeth y gwaith a chafodd y bont ei hail agor i draffig ar y rheilffordd ym 1972 ac ar gyfer traffig y ffordd ym 1980.

I ganfod rhagor am y pontydd sy’n croesi afon Menai ewch i weld yr arddangosfeydd rhagorol yn Amgueddfa ac Oriel Bangor ac yng Nghanolfan Thomas Telford ym Mhorthaethwy.

 The Menai Bridges Heritage Site 

 Sefydlu'r Coleg Normal 

1858

Daeth yn amlwg yn yr 1840au fod diffyg athrawon wedi’u hyfforddi yng Nghymru. I ateb y diffyg, codwyd £11,000 drwy danysgrifiad cyhoeddus. Fe’i defnyddiwyd, a £2,000 o'r llywodraeth, i agor y Coleg Normal ym Mangor ym 1858, fel sefydliad hyfforddi athrawon. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, mewn adeiladau dros dro roedd y darpar athrawon yn cael eu dysgu a daeth y gwaith adeiladu ar y safle barhaol i ben ym 1862. Ni chafodd merched eu derbyn tan ddechrau’r 20fed ganrif ac, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, ehangodd y Coleg i hen Westy’r George ar gyrrion y ddinas.

Yn y 1960au roedd y Coleg yn rhan o un o ymgyrchoedd yr iaith Gymraeg cyntaf yr oes fodern, pan lobÏodd darlithwyr yn llwyddiannus i gael eu sieciau cyflog yn Gymraeg. Ers 1996 mae’r Coleg wedi bod yn rhan o Brifysgol Cymru Bangor.

 Sefydlu Clwb Pêl-droed Bangor 

1876

Cafodd Clwb Pêl-droed Bangor ei sefydlu ym 1876, mae’n un o’r clybiau pêl-droed hynaf yng Nghymru ac yn fythol bresennol yng Nghynghrair Cymru a’i ragflaenwyr dros y blynyddoedd Yn ei flynyddoedd cynnar, roedd Bangor yn chwarae ei gemau cartref ar gae bach yn ardal Hirael o’r ddinas, Maes-y-Dref, tan i’r cae gael ei droi’n rhanddaliadau a’r clwb ei droi allan. Hyd at 2011 roedd y gemau’n cael eu chwarae ar yr hen gae criced yn Ffordd Farrar, cyn symud i stadiwm newydd fodern yn Nantporth.

Ar ddiwedd tymor 1977 / 78, pan gafodd Southport eu diarddel o Bedwaredd Adran, Cynghrair Pêl-droed Lloegr, roedd Dinas Bangor, Boston United a Wigan Athletic i gyd yn barod gymryd eu lle. Oherwydd bod cae Wigan Athletic yn fwy modern, yn cynnwys rhwystrau rhag gwasgu, collodd Bangor a Boston eu cyfle am ddyrchafiad. Ar 12 Mai 1984, Bangor oedd y clwb cyntaf o Gymru, ers Caerdydd ym 1927, i gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Gymdeithas Bêl-droed a chwarae yn Wembley. Mewn gêm agos iawn yn erbyn Northwich Victoria roedd y sgôr yn 1 – 1, yn anffodus, collodd Bangor yr ail ornest o 2 – 1.

Mae cyn chwaraewyr yn cynnwys Peter Davenport, Graeme Sharp, Clayton Blackmore, Neville Southall a Mick McGrath; fodd bynnag, y chwaraewr enwocaf, yn ddiamau, i wisgo’r crys glas oedd enillydd Cwpan y Byd, Syr Bobby Charlton, a chwaraeodd fel gwestai i Fangor yn Nhwrnamaint Lloegr - yr Eidal ym 1978.

 BCFC Historical Blog 

 Achosion Teiffoid 

1882

Bu farw 42 o bobl Bangor yn y pla teiffoid ym 1882. Roedd cryn wahaniaeth barn rhwng aelodau’r bwrdd iechyd lleol ynghylch ffynhonnell yr haint, roedd llawer o bobl yn credu mai ‘mygdarth drewllyd' o garthfosydd agored y ddinas oedd yn ei achosi. Yn ddiweddarach, darganfuwyd mai gwir achos yr epidemig oedd bacteria’n cael ei gario mewn dŵr a llaeth o fferm ger Bethesda, uwchben ffynhonnell cyflenwad dŵr Bangor. Fel troednod ingol, roedd y meddyg a oedd uchaf ei groch yn erbyn theori fisâr y ‘mygdarth drewllyd’ yn un o’r 42 a fu farw. Yn y blynyddoedd yn dilyn yr epidemig, adeiladwyd Ysbyty Minffordd fel prif ganolfan y rhanbarth ar gyfer trin afiechydon heintus.

 Siarter Ymgorfforiad  

1883

Siarter Ymgorfforiad yw’r ddogfen gyfreithiol sylfaenol ar gyfer ffurfio Corfforaethau Dinesig sy’n cael ei chaniatáu gan y wladwriaeth ar ôl cyflwyno deiseb i’r Brenin neu’r Frenhines. Mae’n diffinio hawliau, rhwymedigaethau a chyfrifoldebau llywodraethu mewn dinasoedd sy’n cael eu hymgorffori yn y siarter honno.

Mewn cyfarfod o ddinasyddion preifat ym 1882 yn y Bank House ym Mangor, penderfynwyd y byddai’n fuddiol cael Siarter Ymgorfforiad i fwrdeistref Seneddol Bangor gan droi’r ddinas yn fwrdeistref ddinesig o dan ‘Ddeddf Corfforaethau Dinesig’ 1882. Cafodd ffiniau’r ddinas eu hail ddiffinio’n ffurfiol a’u rhannu’n wardiau gwleidyddol a sefydlwyd system fodern o feiri, henaduriaid, cynghorwyr, trysoryddion a chlercod tref.

 Prifysgol Bangor 

1884

Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu ymgyrch gyhoeddus, boblogaidd am well addysg uwch yng Nghymru. Yn ardal Bangor, cyfrannodd ffermwyr a chwarelwyr lleol yn rheolaidd o’u cyflogau wythnosol at gronfa i sefydlu coleg o safon prifysgol yn y ddinas.

Daeth y myfyrwyr cyntaf i Goleg y Brifysgol Gogledd Cymru ar 18 Hydref 1884. Bu pum deg wyth o fyfyrwyr yn mynychu dosbarthiadau, a oedd yn cael eu cynnal yn adeilad annhebygol tafarn y goets fawr y Penrhyn Arms. Ym 1903 rhoddodd y ddinas safle ddeg erw ar ben Penrallt yn rhodd fel safle barhaol i adeiladu'r Brifysgol. Unwaith eto, daeth y cyllid yn bennaf oddi wrth bobl cylch Bangor fel rhoddion gwirfoddol.

Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Brenin Edward VII ar 9 Gorffennaf 1907 ac agorwyd prif adeilad y Celfyddydau yn ffurfiol gan y Brenin Siôr V ym 1911. Daeth y Coleg i gael ei alw y ‘Coleg ar y Bryn' oherwydd ei safle uchel a’i olygfeydd panoramig dros y dref ac Afon Menai. Yn y cyfamser, arhosodd yr adran Wyddoniaeth yn y Penrhyn Arms nes galw’r ‘archebion olaf’ ym 1926. Agorwyd y gyfadran newydd, a oedd wedi’i adeiladu’n bwrpasol gyda chymorth arian a godwyd o Gofeb Arwyr Gogledd Cymru.

Ffurfiodd casgliad dysgu'r Brifysgol y sail i’r hyn a ddeuai’n Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, sydd wedi bod ar agor i’r cyhoedd yn ysbeidiol ers ei sefydlu ym 1884.

Tyfodd y Coleg, o ran maint ac mewn enw da, gydol yr ugeinfed ganrif a hyd y dydd heddiw. Erbyn hyn mae 12,000 o fyfyrwyr a 2,000 o aelodau o staff mewn safleoedd ar draws y ddinas ac mewn mannau eraill mor bell â Wrecsam. Mae Prifysgol Bangor yn dal wedi ymrwymo i “ddarparu addysg o’r ansawdd gorau, cynnal ymchwil o’r ansawdd gorau, cymryd gofal da o’i myfyrwyr a chwarae rôl lawn yng nghymunedau ehangach Cymru.”

Prosiect diweddaraf y Brifysgol yw canolfan gelfyddydau gyffrous a fydd yn cynnwys theatr, theatrau stiwdio, sinema, bwyty, bariau, undeb myfyrwyr a mannau addysgu.

Disgwylir y bydd yn agor yn 2014 a bydd yr adeilad yn codi mewn sawl rhan i fyny'r allt serth o'r Porth Coffa i brif adeilad y Brifysgol.

Mae alumni enwog Bangor yn cynnwys: y cyfarwyddwr ffilm a'r gŵr y tu ôl i seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012, Danny Boyle; y canwr Roger Whittaker, y pêl-droediwr Mark Hughes; yr ysgolhaig Cymraeg, bardd a phersonoliaeth deledu Gwyn Thomas; yr actorion Frances Barber a John Sessions a’r enillydd Gwobr Nobel, y ffisiolegydd Robert G Edwards.

 Tŵr y Cloc 

1887

Llun: Gwilym Wyn Griffiths

Ar gyffordd y Stryd Fawr a Ffordd Garth saif Tŵr y Cloc, Bangor, o frics coch oes Fictoria. Roedd yn rhodd gan y cyn Faer Thomas Lewis, a chafodd ei gyflwyno ‘fel Arwydd o’i ddiddordeb yn Lles y Ddinas.” Cafodd ei adnewyddu ym 1986, mae’n dirnod enwog yn y ddinas, yn fan cyfarfod poblogaidd ac mae yng nghanol ein llinell amser Bangor.

 Coleg Y Santes Fair 

1893

Hyd at oes Fictoria, dim ond dynion oedd yn cael addysg bellach. Os oedd merched yn cael addysg o gwbl, dim ond pynciau a oedd (ym marn dynion) yn addas ar gyfer eu 'natur eiddil' oedd ar gael. Byddai'r rhain yn eu darparu i drafod pynciau diniwed yn y parlwr. Roedd rhai addysgwyr yr oes hyd yn oed yn dadlau y gallai dysgu yrru merch yn sâl neu’n wallgof! Yn wyneb yr anfanteision sylweddol hyn, llwyddodd rhai merched i ragori mewn pynciau ‘gwrywaidd’ honedig gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg a’r gyfraith.

Roedd addysg yn un o’r ychydig swyddi a oedd yn cael ei chyfrif, yn gyffredinol, yn addas ar gyfer merched ifanc y dydd. Ym Mangor, roedd merched a oedd yn dymuno hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn addysg yn mynychu Coleg y Santes Fair. Cafodd ei adeiladu ym 1893 gan yr Eglwys yng Nghymru fel Coleg Hyfforddi Athrawon, roedd yn adeilad dau lawr golygus gyda ffenestri mwliwn cerrig, clochlofft ganolog a chapel ynghlwm. Ers 1977 mae’r Coleg yn rhan o Brifysgol Cymru Bangor.

 Agor Pier y Garth 

1896

Arweiniodd y twf mewn twristiaeth yn oes Fictoria at adeiladu pierau mewn nifer o drefi glan y môr ym Mhrydain. Yn sgil Mesur Seneddol 1893, dechreuodd gwaith ar bier 1550 troedfedd Bangor a chostiodd £14,475 i’w adeiladu. Agorwyd Pier Garth ar 14 Mai 1896 gan yr Arglwydd Penrhyn gydag adloniant gan y bythol boblogaidd ‘pierrots’ neu glowniau. Yn ystod y deunaw mlynedd nesaf, daeth cyfartaledd blynyddol o 34,000 o deithwyr ar y pier o a daeth 442,000 'am dro ar y dŵr' o ochr y tir.

Cafodd y pier ei adeiladu’n bennaf o ddur, gyda cholofnau a pheiliau o haearn bwrw ac roedd cyfres o giosgau wythonglog gyda thoeau brig, lampau addurniadol a chanllawiau bob hyn a hyn ar y dec pren. Roedd y dyluniad yn cynnwys glanfa bontŵn a rheilffordd 3 troedfedd (90cm) o led i gario bagiau. Roedd stemars o Douglas, Lerpwl a Blackpool yn hwylio o ben y pier hyd at 1914. Y flwyddyn honno, torrodd llong y glannau, y SS Christiana, yn rhydd o’i hangor a gwrthdaro â’r pier. Achoswyd difrod eang a chafodd rhan o’r strwythur ei falu ond llenwyd y bwlch gan bont dros dro gan filwyr y Peirianwyr Brenhinol. Arhosodd y bont hon yn ei lle am saith mlynedd arall yn ystod ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a phan gafodd y pier ei ail adeiladu ni adeiladwyd rheilffordd arall. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd y pier ei dorri yn ei hanner unwaith eto - y tro yma yn fwriadol, i atal milwyr yr Almaen rhag glanio ym Mangor!

Yn rhan olaf yr 20fed ganrif, aeth sawl pier yn adfail o ganlyniad i gostau cynnal cynyddol a newid mewn patrymau gwyliau ar draws y DU. Caewyd Pier y Garth i’r cyhoedd ar sail iechyd a diogelwch ym 1971 a daeth Cyngor Bwrdeistref Arfon yn berchennog y pier ym 1974. Penderfynodd y perchnogion newydd ddymchwel y pier, ond llwyddodd Cyngor y Ddinas i’w gael wedi'i restru yn adeilad rhestredig Gradd II, a oedd, statws sydd, yn briodol iawn, yn ei gydnabod fel un o’r tri phier gorau yn dal ar ôl yn y DU.

Prynodd Cyngor Dinas Bangor y pier am ffi enwol o geiniog newydd ym 1975 a thros y saith mlynedd nesaf bu rhaglen fawr o godi arian ar gyfer ei adfer. Daeth cymorth grant ychwanegol o’r Gronfa Goffa Treftadaeth Genedlaethol, y Swyddfa Gymreig a Chomisiwn Gwasanaethau Manpower ac, ar ôl cynllun adnewyddu o chwe blynedd, ail agorodd Marcwis Môn Bier y Garth, wedi’i adfer yn llawn, ym mis Mai 1988. Heddiw, hwn yw’r ail bier hiraf yng Nghymru a’r nawfed hiraf yn Ynysoedd Prydain.

 La Marguerite (Rhodlong) 

1904

Ar un adeg roedd y La Marguerite yn cael ei hystyried y llong pleser fwyaf poblogaidd yn y wlad. Cafodd ei hadeiladu fel stemar badlo i groesi’r sianel i dir mawr Ewrop ac am ddeng mlynedd bu’n hwylio o borthladdoedd, Tilbury a Margate yn Lloegr i Ostend, Calais a Boulogne ar ôl ei lansio ym 1894. Ym 1904, symudodd ei pherchnogion, y Fairfield Shipbuilding and Engineering Company, hi i Ogledd Cymru ble bu’n yn cario teithwyr rhwng trefi gwyliau o Landudno, Douglas a Bangor. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu ar wasanaeth cenedlaethol gwerthfawr yn teithio tua 52,000 o filltiroedd i gludo 360,000 o filwyr i Ffrainc. Daeth diwedd ar grwydro’r La Marguerite ym 1925 pan gafodd ei datgymalu. I gydnabod ei gwasanaeth adeg y rhyfel, cyflwynwyd cloch y llong i Rifflau Dinas Llundain ym 1927.

 Agor y Llyfrgell  

1907

Roedd Andrew Carnegie, meistr dur Albanaidd – Americanaidd, yn un o ddyngarwyr mawr ei ddydd. Rhwng 1883 ac 1929 cyfrannodd at adeiladu mwy na dwy fil a hanner o 'lyfrgelloedd Carnegie', rhad ac am ddim. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain yn yr Unol Daleithiau, ond cafodd 660 eu hadeiladu ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae llyfrgell Carnegie Bangor ar Ffordd Gwynedd a chafodd ei hagor ym 1907, ac mae’n dal i gael ei defnyddio hyd heddiw. Mae tabled copr, sy’n cael ei arddangos yng nghyntedd y llyfrgell, yn adrodd yr hanes.

“Cafodd y llyfrgell hon ei chodi gan gorfforaeth Bangor i'w defnyddio am ddim gan drigolion y Ddinas. Cyfrannodd Andrew Carnegie Ysw y swm o £2,500 at gost yr adeilad a daeth y swm o £500 o etifeddiaeth y Capten John Jones. Cafodd yr adeilad ei agor yn ffurfiol gan y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Penrhyn ar yr 8fed o Dachwedd 1907 a dadorchuddiwyd y tabled hwn ar yr un diwrnod gan yr Henadur W P Matthews, Cadeirydd Pwyllgor Is-ddeddfau a Dibenion Cyffredinol yr Amgueddfa.”

 Y Gwasanaeth Bws Cyntaf 

1912

Nid yw hanes diffiniol gwasanaeth bysiau Bangor wedi’i ysgrifennu eto. Nid yw’r arbenigwyr yn gallu datgan gydag unrhyw sicrwydd pa gwmnïau oedd yn rhedeg y bysiau cyntaf ym Mangor, ond roedd y cwmnïau lleol yn cynnwys Bangor Blue Motors (yn gweithredu gwasanaeth teithwyr pob hanner awr rhwng Bangor a Biwmares), Royal Blue, Caernarfon Bay Motor Services a Llanllechid Blue.

Yn y 1930au prynodd Crosville o Gaer Bangor Blue Motors, ar 61 o gwmnïau bysiau annibynnol, lleol, eraill ledled gogledd Cymru. Heddiw, Arriva sy’n gweithredu ar arfordir Gogledd Cymru gyda gweithredwyr lleol, llai, megis Bysiau Padarn.

 Porth Coffa’r Dewrionh 

1923

Bu rhyfel 1914 - 1918 yn ergyd enfawr i’r holl genhedloedd a gymerodd ran ynddo. Roedd dynion o bob tref a phentref yn ymladd ac yn marw yn y brwydro ac ar ôl y rhyfel cafodd eu haberth ei goffau drwy adeiladu cofebion a chofadeiladau ledled y DU.

Mae Porth Coffa’r Dewrion Bangor yn cofnodi dros 8,500 o’r rhai o Ogledd Cymru a fu farw. Cafodd eu henwau eu harysgrifio yn ôl eu plwyfi ar baneli derw sy’n gorchuddio waliau’r llawr cyntaf cofeb gastellaidd enwog y pensaer D Wynne Thomas a gafodd ei agor ar 1 Tachwedd 1923 gan Dywysog Cymru ar y pryd, y Tywysog Edward. Mae’r plac ar y Gofeb yn darllen:

Cofeb Dewrion Gogledd Cymru

Cafodd yr adeilad hwn â’r labordai gwyddoniaeth cyfagos eu hadeiladu gan danysgrifiad cyhoeddus er cof am ddynion Gogledd Cymru a fu farw yn y Rhyfel Mawr 1914 – 1918.

The Arch is a Grade II listed building, and has recently undergone a £200,000 restoration.

 Y BBC, Bryn Meirion 

1935

Ym mis Chwefror 1922, darlledwyd rhaglen radio cyntaf y British Broadcasting Company o drosglwyddydd yn Llundain. Cafodd yr orsaf gyntaf yng Nghymru ei hagor yng Nghaerdydd flwyddyn yn ddiweddarach. Roedd yn dod o dan Ranbarth y Gorllewin a oedd yn cynnwys Gorllewin Lloegr a phrin iawn iawn oedd y rhaglenni yn Gymraeg. Erbyn 1935, amcangyfrifwyd fod tua hanner o gartrefi Cymru’n dal y drwydded deg swllt a oedd ei hangen i dderbyn rhaglenni. Yn y flwyddyn honno agorodd gorsaf Bangor o dan arweinyddiaeth Cyfarwyddwr Cymreig.

Erbyn diwedd y tridegau, penodwyd cyn newyddiadurwr y Western Mail a chynhyrchydd y BBC yng Nghaerdydd, Samuel Cornelius Jones yn gynrychiolydd y BBC yng ngogledd Cymru. Cylch gorchwyl Sam yng Nghaerdydd i BBC Radio Wales oedd cynhyrchu rhaglenni yn Gymraeg. Ei raglen ‘Noson Lawen’ oedd rhaglen fwyaf poblogaidd BBC Bangor yn Gymraeg. Yr adeg yma hefyd darlledwyd y newyddion cyntaf i Gymru gyfan .

Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd, aeth gwasanaethau’r BBC yn rhai cyfun, am resymau diogeledd. Caewyd swyddfa Bangor dros dro. Fodd bynnag, newidiodd hynny fel yr aeth y rhyfel yn ei flaen ac roedd rhai rhaglenni newyddion Cymru a rhaglenni Cymraeg yn dal i gael eu darlledu. Yn union ar ôl gorffen y rhyfel yn Ewrop, lansiwyd y Welsh Home Service ar 29 Gorffennaf 1945.

Yn ystod y rhyfel, yn y cyfnod 1941 – 1943, ail leolwyd Adran Variety y BBC i Fangor. Dywedodd yr hanesydd enwog John Davies, fod yr adran gyfan ‘wedi’i chludo o Fryste ar drên arbennig a oedd yn cludo 432 o bobl, un deg saith o gŵn a pharot”.

 Tai Cymdeithasol, Maesgeirchen 

1937

Ers oes Fictoria roedd yn cael ei gydnabod y dylai awdurdodau lleol gymryd camau i wella’r tai yn eu hardaloedd. Roedd Deddfau Tai rhwng 1919 ac 1930 yn gofyn i Gynghorau ddarparu tai cymdeithasol ac ym 1937 adeiladwyd ystâd Maesgeirchen ar safle’r hen fferm Maes-y-geirchen ar gyrion Bangor. Ar ôl ei datblygu ymhellach yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac yn ddiweddarach, daeth Maesgeirchen yr ystâd drigiannol fwyaf yng ngogledd Cymru. Mae’r ystâd yn cynnwys clwb cymdeithasol, canolfan gymunedol, eglwys ac ysgol gynradd, Ysgol Glan Cegin. Yn ddiweddar, cafodd y tai eu hadnewyddu'n llwyr a gwnaed gwaith amgylcheddol mawr ar yr ystâd gan gynnwys llwybrau cerdded, llwybrau a mannau picnic.

 Coleg Technegol Sir Gaernarfon 

1947

Yn ystod yr 20fed ganrif, roedd datblygiadau mewn masnach a diwydiant yn gofyn am weithlu wedi’i hyfforddi’n well. Ym mis Medi 1947, oherwydd yr angen am grefftwyr ar ôl y rhyfel, sefydlwyd yr “Ysgol Uwchradd Dechnegol” i roi addysg dechnegol a hyfforddiant galwedigaethol ym Mangor. Yr hen Glwb Cymunedol ger Ysgol Uwchradd Ffordd Deiniol oedd ei chartref a denodd y Coleg Technegol, fel ei gelwid yn ddiweddarach, fyfyrwyr o ledled siroedd Caernarfon ac Ynys Môn. Arweiniodd ei lwyddiant at godi adeiladau pwrpasol, mwy parhaol, ar gyffordd Ffordd Ffriddoedd a Ffordd Elidir. Agorodd y rhain am y tro cyntaf ym 1957, a chwblhawyd estyniadau ym 1969. Ehangodd cylch gorchwyl y Coleg hefyd, i bynciau megis cyn nyrsio, gwyddor tŷ a chelf yn ogystal â'r cwricwlwm craidd mwy traddodiadol. Yn fwy diweddar, ymunodd y coleg gyda Choleg Pencraig, Llangefni ac erbyn hyn Coleg Menai yw ei enw.

 HMS Conway'n Taro'r Creigiau 

1953

Dros y blynyddoedd mae nifer o longau wedi’u henwi’n HMS Conway, a’r enwocaf, efallai, oedd llong a enwid o’r blaen yn HMS Nile, llong dau ddec, 90 gwn o’r lein a lansiwyd ym 1839. Ail enwyd The Nile yn HMS Conway ym 1875 pan ddaeth yn llong hyfforddi’r Llynges dan angor yn Afon Merswy. Oherwydd cyrchoedd awyr yr Ail Ryfel Byd ar Ddociau Lerpwl roedd yn rhaid symud y Conway a chafodd ei hangori dros dro oddi ar Ynys Môn. Ar ôl y rhyfel, bu cynnydd sydyn yn nifer cadlanciau’r llynges a bu’n rhaid galw ar wasanaeth y Conway unwaith eto. Roedd yr HMS Conway yn cael ei hangori ger Pier Bangor o 1941 hyd at 1949, pan ddychwelodd i Benbedw i’w hadnewyddi cyn dod i angorfa barhaol gyferbyn â Phlas Newydd. Erbyn 1953 roedd angen ei hadnewyddu eto, ond y tro yma digwyddodd trychineb.

Ar fore’r 14 Ebrill roedd y llanw’n troelli ym Mhwll Ceris, llecyn twyllodrus yn nyfroedd Afon Menai. Roedd y tywydd a’r llanw yn llawer gwaeth nag y disgwyliwyd a dyna a arweiniodd at gamgymeriad enfawr y Capten. Er gwaethaf rhybuddion y peilot a morwyr lleol eraill, ceisiodd lywio HMS Conway rhwng y pontydd Menai a Britannia ond gan daro’r “Platters”, creigau agos at yr wyneb yn yr afon. Pan ostyngodd y llanw, torrodd y llong ei hasgwrn cefn ar y creigiau. Nid oedd y Conway yn werth ei hachub a chafodd ei dinistrio’n llwyr gan dân ym 1956.

Mae rhai o drigolion Bangor yn dal i gofio eu mamau’n eu bygwth, os oedden nhw’n blant drwg, eu hel i’r Clio, rhagflaenydd ofnadwy’r Conway. Cafodd y llong hyfforddi hon ei hangori oddi ar Fangor rhwng 1877 a 1920 ac roedd ganddi enw drwg yn lleol oherwydd y cosbau llym a gai’r plant oedd yn cael eu hyfforddi arni - yn aml ar fympwy’r staff.

 HMS Conway Website 

 Bangor Yn Ennill Cwpan Cymru 

1962

Mae Clwb Pêl-droed Bangor wedi ennill cwpan Cymru wyth gwaith, ond eu buddugoliaeth ym 1962 a’u paratôdd ar gyfer efallai’r gêm orau yn eu hanes - y gêm gyfartal gofiadwy gyda Napoli, yr Eidal.

Cyfarfu Bangor â Wrecsam yn y ffeinal, a oedd i’w chwarae dros ddwy gêm. Enillodd Wrecsam y gêm gyntaf 3 – 0 yn y Cae Ras, ond daeth Bangor yn gyfartal yn y gêm dychwelyd yn Ffordd Farrar gyda’r dorf ar adegau’n rhedeg ar y cae ac yn ymladd â dyrnau. Roedd yn rhaid chwarae’r gêm ddyfarnu ar gae niwtral ac enillodd Bangor 3 - 1 ar gae Belle Vue, y Rhyl.

Gyda’r fuddugoliaeth yng Nghwpan Cymru cafodd Bangor gyfle i frwydro am Gwpan Enillwyr Cwpan Ewrop. Y tîm i’w wynebu oedd SSC Napoli, a oedd ar y pryd yn un o glybiau mwyaf yr Eidal ac yn denu torf gartref o 80,000 yn rheolaidd. Yn y gêm gyntaf, a gafodd ei chwarae yn Ffordd Farrar, syfrdanodd Bangor y byd pêl-droed drwy ennill 2 – 0. Dair wythnos yn ddiweddarach, o flaen torf orlawn yn Stadio San Paulo yn Naples, collodd Bangor 3 - 1. O dan reolau UEFA heddiw, byddai hynny’n golygu fod y Cymry wedi ennill ar goliau i ffwrdd. Ond ar y pryd, roedd rheolau’r gystadleuaeth yn gofyn am gêm dyfarnu a chynhaliwyd honno yn Stadiwm Highbury Arsenal. Y tro yma, enillodd Napoli 2 – 1, gan sgorio’r gôl fuddugol saith munud cyn diwedd y gêm. Mor agos, ond eto mor bell!

 Agor Y Pwll Nofiod 

1965

Cafodd Pwll Nofio dinesig cyhoeddus Bangor yn Ffordd Garth ei agor ym 1965. Erbyn hyn, yma mae Pencadlys Clwb Nofio Dinas Bangor sydd wedi cynhyrchu llawer o bencampwyr, yn ddynion a merched, dros y blynyddoedd. Mae Pwll Nofio Bangor yn cynnal nifer o gystadlaethau rhanbarthol a lleol. Heblaw’r pwll ei hunan, mae’r adnoddau yn cynnwys dwy lithren ddŵr, tri bwrdd plymio, Ystafell Ffitrwydd newydd, caffi ac oriel wylio a thu allan mae pwll padlo bychan a dau gae pêl-droed pum pob ochr pob tywydd.

 Ymweliad y Beatles 

1967

Ym mis Awst 1967, sy’n cael ei gofio fel yr ‘Haf o Gariad’, y Beatles oedd y grŵp pop enwocaf ar y blaned. Fis Mehefin, eu cân “All You Need Is Love” oedd canolbwynt y telediad byd eang byw cyntaf trwy gyswllt lloeren. Cafodd yr “Our World” arbennig ei wylio gan 400 miliwn o bobl mewn 26 o wledydd. Daeth eu diddordeb cynyddol mewn crefydd y Dwyrain â nhw i Brifysgol Bangor, ble roedd y Maharishi Mahesh Yogi, arweinydd y Symudiad Adfywiad Ysbrydol, yn cynnal cyfres o ddarlithoedd wythnos o hyd Roedd Gorsaf Euston yn llawn o bobl yn rhythu ar y Beatles ar eu ffordd ar y ‘Mystical Special’ (enw arall ar y 3:15 Euston i Gaergybi yn aros ym Mangor). Yn y dorf ar y platfform cafodd Cynthia Lennon ei gwahanu oddi wrth ei gŵr John. Camgymerodd yr Heddlu hi am ffan ac yn y diwedd collodd y trên!

Cyrhaeddodd y Beatles ar nos Wener a chael llety yn neuadd Dyfrdwy, neuadd breswyl y myfyrwyr. Roedd aelodau eraill o barti’r Beatles, gan gynnwys Mick Jagger, Cilla Black a Jane Asher yn cael llety yn neuadd Alun. Ar y dydd Sadwrn, roedden nhw’n rhan o gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd John Phillips. Fodd bynnag, roedd trychineb newydd ddigwydd yn Llundain pan laddodd rheolwr y Beatles, Brian Epstein, ei hun. Torrodd y ‘Fab Four’ syfrdan eu harhosiad yn fyr a dychwelyd i Lundain ar unwaith. Mae llawer o haneswyr y Beatles yn dweud mai ar ôl y penwythnos hwnnw y dechreuodd y band ddatgymalu.

Mae plac yn neuadd Hugh Owen y Brifysgol - y Ganolfan Reoli erbyn hyn - yn coffau’r achlysur.

 Agor Ysbyty Gwynedd 

1984

Mae Ysbyty Gwynedd rhwng ffordd gyflym yr A55 a Bangor ym Mhenrhosgarnedd. Hon yw prif safle Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n darparu gwasanaethau llym, cymunedol ac iechyd meddwl i siroedd Gwynedd a Môn. Fe’i hagorwyd ym 1984, yn lle’r hen Ysbyty Môn ac Arfon yn y ddinas.

Ysbyty Gwynedd yw canolfan y rhanbarth ar gyfer Gwasanaethau Llym gyda thros 550 o welyau yn darparu gwasanaethau a llawdriniaethau meddygol, cynhwysfawr, llym, adran ddamweiniau mawr, gofal dwys, gofal coronaidd, seiciatrig, gwasanaethau gynaecolegol a mamolaeth ac uned gofal arbennig i fabanod. Mae technoleg gyfrifiadurol sgrȋn cyffwrdd modern yn y prif theatrau yn gallu cofnodi amser real, yn lle cofnodi â llaw ac yn golygu bod mwy o wybodaeth ar gael at ynghylch y defnydd o’r theatrau a chyfartaledd amser achosion.

 Y Fflam Olympaidd yn Dod i Fangorr 

2012

Yn ystod yr haf 2012 lledaenodd twymyn Olympaidd ar draws y DU gydag ymdaith y Ffagl yn cydio yn y dychymyg. Bu 8,000 o gludwyr yn cario’r Fflam Olympaidd trwy fwy na 1,000 o ddinasoedd, trefi a phentrefi. Daeth ffagl gyfnewid gogledd Cymru trwy Fangor ar Ddiwrnod 10, dydd Llun 28 Mai gyda’r cludwyr yn cynnwys: Seren Gymreig y byd opera Bryn Terfel; yr athletwr anabl cenedlaethol a rhyngwladol llwyddiannus Karl Sadil; Elin Davies, y Gymraes gyntaf i rwyfo ar draws Môr yr Iwerydd a'r rhedwr 61 mlwydd oed, Malcolm Jones, sydd wedi cymryd rhan yn Ras Ryngwladol yr Wyddfa bob blwyddyn ers ei dechrau 37 o flynyddoedd yn ôl.

Cludodd Bryn Terfel y Ffagl ar ran olaf y diwrnod ar diroedd Ystâd y Faenol ble cynhaliwyd Derbyniad. Yna, goleuodd goelcerth arbennig a oedd yn ganolbwynt cyngerdd cerddorol.



 

Dilynwch hanes hudol Bangor gyda’n llinell amser, mae wrth eich traed ar y Stryd Fawr mewn efydd a llechi Cymru. O’r helwyr Neolithig, trwy orchestion peirianyddol Telford, hyd at y Beatles a thu hwnt i hynny, mae cymaint i’w ddysgu am y Ddinas Brifysgol a’r ganolfan siopa gyffrous. Paneli efydd wedi'u hysgrythu a rondelau efydd wedi'u gosod mewn llechi palmant yw'r llinell amser. Mae dyddiadau arwyddocaol yn hanes Bangor yn cael eu coffau, mae’n annog balchder dinesig, yn cynyddu cywreinrwydd ymwelwyr ac yn creu synnwyr o le. Cafodd pob un o’r mowldiau eu cerfio â llaw ar gyfer y darluniau, sydd wedi’u castio mewn efydd a chafodd y testun ei ysgythru ar lechi’r palmant a cyn ei fewnosod mewn pres. Mae pob cam ar y llinell amser yn adrodd stori wahanol. Gallwch ganfod hyn yn oed ragor drwy ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Bangor.

Cafodd y prosiect ei arolygu gan yr artist enwog David Mackie y mae ei waith celf cyhoeddus i’w weld ledled Cymru a Lloegr. Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y llinell amser oddi wrth ddisgyblion Gwynedd o Ysgol Cae Top, Ysgol Friars, Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan. Cafodd yr artistiaid ifanc y syniadau am y dyluniadau mewn cyfres o weithdai rhyngweithiol o dan arweiniad David. Yna, cymerodd y drafferth i gerfio, â llaw, yr holl luniau ar gyfer eu castio mewn efydd. Yna roedd yn rhaid gwneud y gwaith cywrain o ysgythru’r testun i gerrig palmant llechi a’i osod yno mewn efydd, gwaith a wnaed gan Aquacut Ltd.

Mae’r llinell amser yn rhan o Strategaeth Mannau Cyhoeddus Cyngor Gwynedd, rhaglen £3.5 miliwn o waith i wella Bangor. Roedd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a menter Ardal Adfywio Môn a Menai. Ymgynghoriaeth Gwynedd oedd dylunwyr y prosiect, , Dawnus Construction oed y prif gontractwyr ac R A Pritchard Associates oedd y Rheolwyr Prosiect. Cydlynydd y Prosiect: Pat Jones Testun: Jacquie Knowles

Digwyddiadau:

 

 

Cysylltiadau Allanol:
David Mackie
Ymweld ag Eryri
Amgueddfa ac Oriel Bangor
Cymdeithas Ddinesig Bangor